Olwynion Cymorth – Adnodd Cymorth Gweledol
Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae'r cymorth sydd ei angen arnynt yn gallu amrywio hefyd.
Mae ein hadnodd 'Olwynion Cymorth' yn cynnig ffordd weledol, ysgafn o archwilio'r pethau sy'n helpu plant i deimlo'n gyfforddus, eu bod yn cael eu deall a'u cefnogi.
Gyda Tomos, Cadi, Mali, Siôn ac Elen yn arddull dyfrlliw ADYnoddau, mae'r pecyn hwn yn cynnwys pum olwyn gymorth.
Gellir defnyddio'r adnodd hwn i:
Annog plant i adnabod a mynegi eu hanghenion unigol.
Cefnogi sgyrsiau am deimladau, dewisiadau a strategaethau defnyddiol.
Hybu hunanymwybyddiaeth, cyfathrebu ac annibyniaeth.
Helpu rhieni, gofalwyr ac addysgwyr i ddeall beth sy'n gweithio i bob plentyn.
Yn addas i'w ddefnyddio gartref, mewn ystafelloedd dosbarth ac mewn lleoliadau anghenion dysgu ychwanegol.
Fformat digidol yn unig – ni fydd cynnyrch ffisegol yn cael ei anfon.
