Siôn – Mynd i’r Deintydd | Adnodd Profiadau Gweledol
Mae’r adnodd Cymraeg hwn i’w argraffu yn cynnwys Siôn a darluniau arddull dyfrlliw ADYnoddau.
Mae’r adnodd ‘Mynd i’r Deintydd’ yn helpu plant i baratoi ar gyfer ymweliad â’r deintydd drwy ddangos dilyniant clir a rhagweladwy o’r hyn fydd yn digwydd. Mae’n cefnogi dealltwriaeth trwy helpu plant i wybod beth i’w ddisgwyl.
Mae’r adnodd ‘Beth fydd yn digwydd?’ yn cynnwys:• Cyrraedd y deintydd • Aros • Eistedd yn y gadair • Y deintydd yn edrych ar y dannedd • Eistedd i fyny • Gadael
Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys 6 cherdyn gweledol ‘Beth gall ddigwydd hefyd?’ sy’n dangos pethau ychwanegol a all ddigwydd yn ystod ymweliad â’r deintydd.
Gellir argraffu a lamineiddio’r cardiau i’w defnyddio dro ar ôl tro. Gall pob plentyn ddefnyddio’r adnodd cynhwysol hwn i helpu gyda dealltwriaeth a pharatoi ar gyfer ymweliad â’r deintydd.
Ffeil PDF ddigidol i’w lawrlwytho a’i hargraffu. Ni fydd cynnyrch ffisegol yn cael ei anfon.
